×

DistantDreamer93's video: Dansin B r - Gwyneth Glyn geiriau lyrics

@Dansin Bêr - Gwyneth Glyn (geiriau / lyrics)
Can/Song: Dansin Bêr (Dancing Bear) Canwr/Singer: Gwyneth Glyn Album: Cainc (Branch) Prynwch/Buy 'Cainc' http://www.sadwrn.com/cd.asp?id=791 (they ship internationally) Welsh Music Blog / Blog Cerddoriaeth Cymraeg: http://welshmusic-cerddoriaethcymraeg.tumblr.com/ Twitter: http://twitter.com/ #!/Welsh_Music Geiriau: Os ewch chi'n nôl amser maith ond ddim mor hir a hynny chwaith, ma 'na un neu ddau ar ôl yn dre yn dal i gofio hanas y Dansin Bêr. Roedd Jo Giovani yn Eidalwr mwyn a du ei dash o dan ei drwyn; mi deithiai hwn o le i le yn diddanu'r dorf hefo'i Ddansin Bêr. Dansin Bêr, Dansin Bêr, dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr. Doi pawb a'i nain o bedwar ban i weld y gŵr a'i garafan; ei hyrdi-gyrdi i'w glywed o'r Plu, ond seren y sioe oedd yr arth fawr ddu. Mi neidiai'r arth drwy gylchoedd pren a bwrw'i thîn yn ddel dros ei phen. Yn nhraed ei sanau, ar ei choesa ôl roedd hi'n dalach a chryfach na wal Sea Wall. Nid arth gyffredin mohoni'n saff, a chry ei rhy ar ben ei rhaff, ei dannedd mor finiog a llafn y lli a mellt y fall yn ei llygaid hi. Dansin Bêr, Dansin Bêr, dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr. John Jôs oedd taid 'yn Nhaid, yn codi walia yn y baw a'r llaid. A Robat Jôs oedd ei bartnar a'i ffrind; i blas Talarfor oedd y ddau yn mynd un bora oer o hydref hwyr a'r niwl o'r môr yn hel fel cwyr, cyn codi cŵn a chathod Criciath - galw'n Siop Mathaw am faco a chyflath. Brasgamu i ben Lôn Fêl ond wrth ymyl Tan Lôn mi safon yn stond... Be glywan nhw ond rhyw gynnwrf yn y llwyn, roedd 'na gradur yn grwgnach yn y brogaij a'r brwyn. Roedd 'na chwrnu yn y chwyn, rhyw dwrw yn y dail, rhyw rochian a stwyrian a snwffian bob yn ail. "Be gebyst?" medda Robat, "Be gythral? " medda John, "Be ddiawl," medda'r ddau "ond yr arth fawr drom!" Dansin Bêr, Dansin Bêr, dyna i chi le oedd hefo'r Dansin Bêr. Dyma droi ar eu sodla a'i gleuo'i fel y dydd a gweiddi nerth eu lleisia - "ma'r arth yn rhydd! O ma'r Dansin Bêr wedi dengid ar droed felly deffrwch bobol Criciath a chodwch yn ddi-oed!" Yn ol a'r ddau i Siop Mathaw ar frys yn wyn fel y galchan ac yn laddar o chwys: "Ol galwch Tomos Plusman a phawb yn dre cyn ni gyd ga'l ein llarpio gin y Dansin Bêr!" Dansin Bêr, Dansin Bêr, a phawb yn dre ofn y Dansin Bêr. Sgrialodd Tomos Plusman i fyny Stryd Fawr efo rhwyd a ffon a phastwn cawr, a John a Robat Jos yn dynn ar ei sodla, a Mathaw Siop Mathaw a'i deulu ar eu hola. A dyma drigolion o draethau a dôl yn gorymdeithio yn hy ar eu hôl; a Tomos oedd yn arwain y gad drwy'r tarth er mwyn achub y pentra rhag pawenna'r hen arth. Dansin Bêr, Dansin Bêr, a phawb yn gweld sêr hefo'r Dansin Bêr. Wrth i bawb nesau at lwyni Tan Lôn lle llechai yr horwth yn slei'n ôl y sôn, be glywan nhw ond rhyw gynnwrf yn y llwyn; roedd 'na gradur yn grwgnach yn y brogaij a'r brwyn. Roedd 'na chwyrnu yn y chwyn, rhyw dwrw yn y dail, rhyw rochian a stwyrian a snwffian bob yn ail. Be welodd Tomos Plusman wrth graffu drwy'r tarth ond cynffon a chlustiau a charnau arth?!... "Myn brain!" medda Tomos hefo naid a gwaedd, "mond hwch Nysgain Bach ar ei ffordd at y baedd!" Dansin Bêr, Dansin Bêr, bai ar gam gath y Dansin Bêr! Dansin Bêr, Dansin Bêr, bai ar gam gath y Dansin Bêr! A dyna hanesyn ers amsar maith, ond ddim mor hir a hynny chwaith. Ac os clywch chi rochian a'r niwl yn drwch, wel peidiwch cael eich twyllo gin fymryn o hwch! English translation lyrics coming soon.

98

8
DistantDreamer93
Subscribers
7.9K
Total Post
327
Total Views
1.3M
Avg. Views
26.4K
View Profile
This video was published on 2012-11-09 06:44:06 GMT by @DistantDreamer93 on Youtube. DistantDreamer93 has total 7.9K subscribers on Youtube and has a total of 327 video.This video has received 98 Likes which are lower than the average likes that DistantDreamer93 gets . @DistantDreamer93 receives an average views of 26.4K per video on Youtube.This video has received 8 comments which are lower than the average comments that DistantDreamer93 gets . Overall the views for this video was lower than the average for the profile.DistantDreamer93 #!/Welsh_Music Geiriau: Os has been used frequently in this Post.

Other post by @DistantDreamer93